Newyddion

Bŵtcamp i Fusnes: Cyfle wedi’i Ariannu’n Llawn i Fentergarwyr Ifanc

Business bootcamp

Ydych chi rhwng 18 a 25 oed ac yn awyddus i gychwyn eich busnes eich hun? Mae Bŵtcamp i Fusnes yn rhaglen breswyl wedi’i hariannu’n llawn yn rhedeg o ddydd Gwener 21 – dydd Sul 23 Mawrth 2025 yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Gilwern, Y Fenni. Mae wedi’i gynllunio i helpu i feithrin hyder, datblygu sgiliau busnes hanfodol a chreu cysylltiadau gyda arbenigwyr yn y diwydiant.

Yn ystod y penwythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu popeth sydd ei angen i gychwyn eu busnes – o frandio a marchnata i gynaliadwyedd a phitsio. Bydd cyfleoedd unigryw i rwydweithio â pherchnogion busnes llwyddiannus hefyd.

Bydd ceisiadau’n cau am 4yp ar Ddydd Gwener 28 Chwefror 2025. Mae lleoedd yn gyfyngedig, gyda blaenoriaeth i’r rhai sydd yn bellach yn eu taith datblygu busnes.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais: Bŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru 2025 | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.