Bŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru 2025
Beth yw’r Bwtcamp Busnes?
Mae’r Bŵtcamp i Fusnes yn gwrs preswyl dwyssydd wedi’i ariannu’n llawn (yn rhad ac am ddim i chi) sy’n cyfuno hyfforddiant, gweithgareddau a chymorth i roi gwynt dan adain eich busnes.
Pryd?
- Gogledd Cymru
Dydd Gwener 24 i Dydd Sul 26 Ionawr 2025.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Dydd Gwener 10fed Ionawr am 4yp - De Cymru
Dydd Gwener 21 i Dydd Sul 23 Mawrth 2025.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Dydd Gwener 28 Chwefror 2025 am 4yp
Ble?
- Gogledd Cymru
Canolfan Awyr Agored Cenedlaethol Plas Menai, Caernarfon, LL55 1UE - De Cymru
Canolfan Addysg Awyr Agored, Gilwern, Y Fenni, NP7 0EB
Bydd bysus ar gael o fannau codi neilltuol. Mae llefydd parcio hefyd ar gael ar y safle.
Ar gyfer pwy?
Os ydych chi rhwng 18 a 25 oed, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i roi gwynt dan adain eich busnes, ond yn ansicr beth sydd angen i chi eei wneud nesaf, mae’r Bŵtcamp i Fusnes yn ddelfrydol i chi.
Beth sy’n digwydd yn y Bwtcamp Busnes?
Yn y Bŵtcamp i Fusnes byddwn yn mynd â chi drwy'r holl sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i gychwyn eich busnes. O frandio a chyfryngau cymdeithasol, i gynaliadwyedd a phitsio, byddwn yn eich tywys trwy bopeth y gallwch ei ddisgwyl yn ystod y 12 mis cyntaf o fasnachu.
Sut bydd yn fy helpu i ddechrau busnes?
Ein nod yw eich helpu i fagu hyder, i rwydweithio ag arbenigwyr a pherchnogion busnes, ac i ddysgu popeth sydd angen ei ddysgu er mwyn lansio eich busnes. Ar ddiwedd y Bŵtcamp i Fusnes dylech deimlo’n barod i fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf – p’un ai bod hynny’n golygu dod yn hunangyflogedig yn swyddogol neu droi menter ar yr ochr yn fusnes llawnamser.
Mae graddedigion y Bŵtcamp wedi dweud wrthym y bu mor werthfawr cysylltu a chydweithredu gyda phobl fel hwythau sy’n rhannu eu hangerdd dros fusnes ac sy’n deall y pwysau o fod yn hunangyflogedig.
Sut mae gwneud cais?
Cwblhewch y ffurflen gyswllt i’n helpu i gael gwybod mwy amdanoch a’ch syniad busnes. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn eich cais – efallai y bydd angen i ni ofyn ambell i gwestiwn ychwanegol i sicrhau bod y Bŵtcamp yn addas i chi.
Sylwch fod lleoedd yn brin ac y bydd ymgeiswyr sy’n bellach ymlaen yn eu taith datblygu busnes yn cael eu blaenoriaethu.