BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadwch y Dyddiad – Wythnos Hinsawdd Cymru 2024

Colleagues discussing climate change, model wind turbines on the desk.

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn ôl rhwng 11 a 15 Tachwedd 2024, gan ddod â phobl o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu gwersi a ddysgwyd, i ysgogi syniadau ac annog trafodaethau ar ddatrysiadau i dracio newid hinsawdd.

Yr thema eleni yw ‘Creu Dyfodol Hinsawdd Gwydn’.

Bydd yr Wythnos yn cyd-redeg ag uwchgynhadledd byd eang COP29 ac yn dilyn cyhoeddi strategaeth gwytnwch hinsawdd newydd i Gymru (sydd wedi’i drefnu ar gyfer yr Hydref). Bydd sesiynau’n myfyrio ar y strategaeth newydd a sut y gallwn gydweithio i ddarparu cynlluniau gwytnwch hinsawdd traws-sector. Bydd yr Wythnos hefyd yn arddangos prosiectau a rhaglenni sy’n cael eu darparu i greu gwytnwch i newid hinsawdd o fewn ein cymunedau a’r amgylchedd naturiol ar draws Cymru.

Bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys:

  • Cynhadledd rithiol 5 diwrnod
  • Cronfa Sgyrsiau Hinsawdd
  • Digwyddiadau ymylol

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hafan | Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 (gov.wales)

Os hoffech rannu unrhyw syniadau ar gyfer yr Wythnos neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio climatechange@gov.wales 

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.