BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadw'n ddiogel yn yr eira

Mae gan Lywodraeth Cymru y canllawiau diweddaraf am beth i'w wneud os oes angen i chi ddelio â thywydd eithafol, dewiswch y ddolen ganlynol Cyngor ar dywydd garw | LLYW.CYMRU.

Mae gan y Swyddfa Dywydd gyngor a gwybodaeth ymarferol ynglŷn â beth i'w wneud i gadw'n ddiogel yn yr eira, am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen 5 tips for staying safe in snow - Met Office.

Wrth i'r gaeaf gael gafael, gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gadw pobl mor gyfforddus â phosibl wrth weithio yn yr oerfel, dewiswch y ddolen ganlynol Temperature (hse.gov.uk).

Mae gan Busnes Cymru adnoddau ymarferol a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i addasu a llywio eich busnes yn sgil costau cynyddol gwneud busnes gan gynnwys manylion Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni i fusnesau. Am wybodaeth bellach, dewiswch y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales).


 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.