BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Caethwasiaeth Fodern – Bright Future

Yn 2022 yn unig, nodwyd bod 17,000 o oroeswyr caethwasiaeth fodern yn y DU.

Mae goroeswyr yn wynebu nifer o rwystrau rhag dod o hyd i gyflogaeth ddiogel a pharhaol, o ganlyniad i ddioddef camfanteisio, gan gynnwys:

  • diffyg hyder
  • hanes gwaith
  • profiad o gyfweliadau

Nod Bright Future yw chwalu’r rhwystrau hyn wrth gynnig cyfle i weithio heb fod angen CV neu gyfweliad cystadleuol. Mae’r llwybr hygyrch hwn i gyflogaeth yn lleihau’r risg o ddioddef camfanteisio drachefn.

A fyddai eich busnes chi’n gallu cefnogi goroeswyr Caethwasiaeth Fodern, a rhoi mynediad at gyflogaeth ddiogel a pharhaol?

Yn ddiweddar, mae Bright Future Co-op wedi ehangu i Gymru ac yn awyddus i weithio gyda busnesau er mwyn helpu goroeswyr Caethwasiaeth Fodern i gael gwaith. 

Mae’r sefydliad eisoes yn gweithio gyda nifer o gwmnïau ledled y DU i’w cefnogi i ddarparu cyfleoedd gwaith i oroeswyr Caethwasiaeth Fodern. Os hoffech gael gwybod mwy, gallwch gysylltu â Bright Future yn info@brightfuture.coop ac mae eu crynodeb busnes ar gael yma.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.