Mae Cam 2 Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru yn cau am 5yp ddydd Gwener 10 Gorffennaf 2020.
Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru.
Gall busnesau cymwys hawlio hyd at:
- £10,000 ar gyfer microfusnesau
- £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig
- £690,000 ar gyfer busnesau mawr
I gael rhagor o wybodaeth ewch i tudalen COVID-19: Cymorth i Fusnes.