BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllaw ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes

Os ydych chi'n berchennog busnes bach, rydych chi'n gwybod y gall costau cynyddol fod yn her wirioneddol.

Mae'n hawdd cael eich llethu trwy geisio cadw eich busnes i fynd mewn economi ansicr sy’n cynnwys chwyddiant uchel a dirwasgiad posibl.

Mae canllaw’r British Business Bank ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ddiduedd, ymarferol, a gweithredadwy i helpu busnesau llai i reoli eu costau, rhoi hwb i'w proffidioldeb hirdymor, a chynyddu eu gwydnwch.

Ynddo, cewch arweiniad ar bopeth o effeithlonrwydd ynni i fuddsoddi mewn technoleg, sydd wedi'u cynnwys i helpu i wneud eich busnes yn fwy arloesol a gwydn.

Dyma rai o'r pynciau eraill sy'n cael eu trafod yn y canllaw:

  • Sylfeini ar gyfer twf
  • Rheoli costau busnes
  • Sicrhau arian a rheoli dyled
  • Canolbwyntio ar gwsmeriaid
  • Optimeiddio eich cadwyn gyflenwi
  • Rheoli gorbenion staff

I gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r canllaw, cliciwch ar y ddolen ganlynol Guide to building business resilience - British Business Bank (british-business-bank.co.uk)

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.