Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu ‘Canllaw i waith teg’.
Mewn gwaith teg, bydd amodau penodol yn amlwg, sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli mewn ffordd deg, bod eu sefyllfa yn ddiogel, a'u bod yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau yn cael eu parchu.
Nod y canllaw hwn yw helpu pobl i ddeall:
- beth mae gwaith teg yn ei olygu yn ymarferol
- pam mae hyrwyddo gwaith teg yn fuddiol i sefydliadau a gweithwyr, ac o ran lles yn ehangach
- sut y gall sefydliadau symud ymlaen ar eu taith at waith teg
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Canllaw i waith teg | LLYW.CYMRU
Mae bod yn gyfrifol yn y gweithle yn golygu mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol safonol i ddarparu gweithle diogel ac iach i weithwyr. I ddarganfod mwy am hyn, edrychwch ar Creu gweithle cadarnhaol | Busnes Cymru (llyw.cymru)