BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau ar gyfer y gweithle i gyflogwyr a chyflogeion: COVID-19

Er mwyn atal COVID-19 rhag lledaenu, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau Coronafeirws, gan osod cyfyngiadau llym ar bobl yn ymgynnull ac yn symud, ac ar redeg busnesau (bu’n rhaid i rai ohonynt gau dros dro). Bob yn dipyn, ar ôl cynnal adolygiadau rheolaidd o’r Rheoliadau, mae nifer cynyddol ohonynt wedi cael caniatâd i agor eto.

Rhaid i fusnesau sy’n cael caniatâd i weithredu, neu leoliadau sy’n cael caniatád i agor, wneud hynny’n ddiogel mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Coronafeirws, yn ogystal â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill sydd ar gyflogwyr (megis deddfwriaeth iechyd a diogelwch).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r pum prif gam y dylai bawb sy’n gyfrifol am waith yng Nghymru eu cymryd i’n helpu i Gadw Cymru yn Ddiogel.

Ewch i’r tudalennau Diogelu Cymru yn y Gweithle ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.