BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd i gartrefi sydd â haint COVID-19 posib

Mae’r canllawiau newydd yn cynghori pobl i aros gartref am 14 diwrnod os oes gan rywun yn eich tŷ symptomau Coronafeirws (COVID-19).

Bydd y canllawiau newydd dal yn gofyn i unigolion hunanynysu am 7 diwrnod o ddechrau symptomau COVID-19 ond nawr byddan nhw hefyd yn gofyn i bob unigolyn yn y tŷ hunanynysu am 14 diwrnod o’r foment honno.

Os bydd aelodau eraill o’ch tŷ yn datblygu symptomau, dim ots pa mor ysgafn, ar unrhyw adeg yn ystod yr 14 diwrnod, bydd rhaid iddyn nhw beidio â gadael y cartref am 7 diwrnod o’r adeg y dechreuodd y symptomau.

Y peth pwysicaf y mae unigolion yn gallu ei wneud i amddiffyn eu hunain ydy golchi eu dwylo’n amlach, am o leiaf 20 eiliad, gyda dŵr a sebon. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tagu neu’n tisian i mewn i hances bapur, yn ei rhoi yn y bin ac yn golchi eich dwylo.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.