![office colleagues looking at a lap top](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/laptop%20people%20office.jpg.webp?itok=y9AzBEEa)
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r amodau ar gyfer defnyddio logo a symbolau achredu Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS) (sef corff achredu cenedlaethol y DU).
Mae’r cyhoeddiad wedi’i ddiweddaru yn nodi’r amodau y mae’n rhaid i sefydliadau eu dilyn os ydynt yn dymuno defnyddio logo a symbolau achredu UKAS. Fe’i bwriedir ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd graddnodi, profi, archwilio ac ardystio systemau, cynhyrchion a phersonél.
Os ydych chi’n dymuno defnyddio’r geiriau ‘achrediad’, ‘achredwyd’, ‘achrededig’ neu ‘achredu’ yn enw eich cwmni, eich Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) neu eich busnes, bydd angen i chi gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Busnes a Masnach.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: