BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

#CaruCymruCaruBlas

Mae siopwyr yn cael eu hannog i gefnogi gweithwyr allweddol yn niwydiant bwyd a diod yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn ymgyrch ar-lein newydd o’r enw #CaruCymruCaruBlas.

Mae #CaruCymruCaruBlas yn ymgyrch Llywodraeth Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â Menter a Busnes.

Mae cynhyrchwyr a manwerthwyr wedi bod yn lawrlwytho pecynnau digidol #CaruCymruCaruBlas yn barod ar gyfer lansio’r ymgyrch y mis nesaf.

Mae ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn dod ar ôl y map cynhyrchwyr llwyddiannus a gafodd ei greu gan Cywain – rhaglen wedi’i neilltuo i ddatblygu busnesau micro, bychan a chanolig newydd, yn ogystal â busnesau sydd eisoes yn bodoli, yn sector bwyd a diod Cymru.

Drwy glicio ar fap Cywain #CefnogiLleolCefnogiCymru mae siopwyr yn cael eu cyfeirio at gannoedd o gynhyrchwyr a chynhyrchion bwyd a diod yng Nghymru yma - https://menterabusnes.cymru/cywain/ein-cynhyrchwyr/ 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Bwyd a Diod Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.