BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogaeth Cyswllt Ffermio gwerth dros £22 miliwn ar gyfer ffermwyr Cymru

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn eu cefnogi wrth iddynt baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i fusnesau, yn gwella cadernid, yn sicrhau cyfleoedd i fanteisio ar y datblygiadau arloesol diweddaraf yn ogystal â helpu i ddatblygu busnesau ffermio. Trwy gynnig cyngor a chymorth, mae Cyswllt Ffermio yn chwarae rhan allweddol o ran helpu ffermydd i gyflawni arylliadau carbon sero net.

Ers ei lansio yn 2015, mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio bresennol wedi cefnogi dros 26,500 o unigolion, gan gynnwys 12,615 o fusnesau.

Bydd y rhaglen newydd yn cael ei chynnal am ddwy flynedd hyd fis Mawrth 2025 a bydd yn canolbwyntio ar baratoi ffermwyr at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Themâu trosfwaol y rhaglen newydd fydd cynaliadwyedd, gwell perfformiad amgylcheddol a gwell cystadleurwydd byd-eang.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.