Oes gennych chi fusnes ger yr arfordir? Os felly, gallech helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo rhai o negeseuon diogelwch dŵr allweddol yr RNLI.
Wrth i fwy a mwy o bobl barhau i ymweld â’r arfordir, gall busnesau wneud cyfraniad amhrisiadwy at gefnogi’r RNLI drwy ddod yn genhadon diogelwch dŵr.
Mae RNLI law yn llaw â Gwylwyr y Glannau yn cynnal yr ymgyrch #ParchwchYDŵr ar gyfer y tymor nofio a gall busnesau fod yn genhadon drwy ymgyfarwyddo â’r negeseuon allweddol a gwneud pethau fel:
- Atgoffa pobl ar ba draethau mae gwylwyr y glannau yn ystod yr haf eleni drwy edrych ar y restr lawn.
- Os nad oes gwylwyr y glannau ar y traeth, gofynnwch i gwsmeriaid ddilyn cyngor diogelwch yr RNLI.
- Rhybuddio am beryglon traethau lleol sydd ag enw am fod yn beryglus, yn enwedig y rhai sydd â llanw terfol lle gallwch gael eich torri i ffwrdd.
- Hysbysu pobl o’r baneri gwahanol liwiau ar draethau a’u hystyr.
- Darparu gwybodaeth am amseroedd llanw a phryd bydd gwyntoedd uchel a all fod yn beryglus iawn wrth ddefnyddio ategolion aer. Mae rhagolygon y tywydd ac amseroedd y llanw ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd.
- Atgoffa pobl os ydynt yn disgyn i’r dŵr yn annisgwyl, y dylent ARNOFIO I FYW
O lety i adwerthwyr i leoliadau lletygarwch, mae’n hawdd iawn cefnogi gwaith a chodi ymwybyddiaeth ac mae’r RNLI wedi llunio asedau defnyddiol iawn ar gyfer busnesau gan gynwys posteri i'w lawrlwytho i helpu i rannu ei negeseuon.