BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd ariannu diweddaraf gan Media Cymru

film crew on set

Arloesi ar gyfer Pobl Greadigol: Cwrs pum diwrnod ar gyfer myfyrwyr coleg a phrifysgol neu raddedigion, gweithwyr llawrydd ar ddechrau eu gyrfa, neu berchnogion busnesau bach sydd â diddordeb yn y diwydiannau creadigol. Dyddiad cau hanner dydd, Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024. Darganfyddwch fwy yma: Arloesi ar gyfer Pobl Greadigol  - Media Cymru (CYM)

Cronfa Uwchraddio – Rownd Dau: Hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o bwys ac uchelgeisiol sylweddol sydd â’r potensial i drawsnewid sector y cyfryngau a chael effaith ryngwladol.  Ceisiadau yn gau am 11am Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024. Darganfyddwch fwy yma: Cronfa Uwchraddio – Rownd Dau - Media Cymru (CYM)

Y Gronfa Straeon Hinsawdd: Mae Cronfa Straeon Hinsawdd yn gwahodd ymgeiswyr i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu a fydd yn arwain at ddatblygu ffilmiau nodwedd neu brofiadau ymgolli sy’n adrodd stori’r argyfwng hinsawdd mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Bydd ceisiadau'n agor ddydd Llun 2 Rhagfyr 2024 ac yn cau am hanner dydd ar 17 Ionawr 2025. Darganfyddwch fwy yma: Y Gronfa Straeon Hinsawdd - Media Cymru (CYM)

Cronfa Datblygu: Hyd at £50,000 i fusnesau ddatblygu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy'n dangos potensial clir i greu cynnyrch neu wasanaeth penodol. Ar agor mis Chwefror 2025. Darganfyddwch fwy yma: Cronfa Datblygu - Media Cymru (CYM)

Ewch i’n cynnwys Diwydiannau creadigol a ffilm i weld sut y gallwch chi gefnogi eich taith yn y sector creadigol hyn. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.