BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Chwilio am hyfforddiant o ansawdd da i staff sy'n gweithio yn eich busnes tir neu amgylcheddol?

Mae gan y diwydiant tir ac amgylcheddol yng Nghymru tua 18,600 o fusnesau ac 85,000 o weithwyr. 

Lantra yw eich siop un stop a all eich arwain o hyfforddiant lefel mynediad hyd at gymwysterau defnyddwyr arbenigol.

Fel cyflogwr, byddwch eisiau datblygu sgiliau eich tîm a'u helpu i weithio'n ddiogel a chynhyrchiol. Gall Lantra helpu gyda hyfforddiant a chymwysterau arbenigol sydd wedi cael eu cynllunio i gefnogi datblygu sgiliau a'ch busnes.  

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Lantra - Cymru | Lantra - Wales

Ydych chi’n ystyried gyrfa neu'n barod i symud ymlaen o fewn y sector tir? Gadewch i Lantra eich helpu i wneud eich dewisiadau gyrfa nesaf.

Gyda dros 200 o ddisgrifiadau gyrfa ar eu gwefan, ynghyd â gwybodaeth am gyflog, sgiliau, cymwysterau a hyfforddiant. Gallwch hefyd glywed gan bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector a fydd yn helpu i roi darlun i chi o sut olwg allai fod ar ddiwrnod ym mywyd amrywiaeth o yrfaoedd. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Careers - Lantra

Gall ein rhaglenni cymorth sgiliau eich helpu i recriwtio'r doniau gorau a mwyaf disglair, cynyddu perfformiad staff presennol a gwella sgiliau arwain a rheoli ledled eich busnes. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datblygu Sgiliau | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.