BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CoronaHack – Deallusrwydd Artiffisial yn erbyn Covid-19

Mae’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth yn annog busnesau, gwyddonwyr data ac ymchwilwyr biofeddygol i ymuno â Hackathon rhithiol proffil uchel sydd wedi’i lunio i wella’r dulliau o fonitro, rhoi diagnosis a rheoli’r Coronafeirws.

Ar hyn o bryd mae angen brys am gymorth meddygol a mathau eraill o gymorth yn y DU oherwydd lledaeniad Covid-19 a’r galw am dechnolegau gan gynnwys:

  • darparu gofal dwys
  • addysg a hyfforddiant carlam i staff gofal iechyd
  • cefnogi pobl sy’n hunanynysu neu’n gweithio gartref

Mae’r rhwydwaith trosglwyddo gwybodaeth yn dweud bod angen llunio’r atebion i’r anghenion hyn drwy gydweithio’n amlddisgyblaethol, ac mae deallusrwydd artiffisial yn un rhan o’r ateb.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 14 Ebrill a 19 Ebrill 2020.

Dyma hysbysiad rhagarweiniol oherwydd y terfynau amser byr.

Cofrestrwch nawr drwy Eventbrite i dderbyn rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a sut gallwch gymryd rhan.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau am y coronafeirws Busnes Cymru er mwyn gael gwybodaeth ynghylch sut gall eich busnes ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.