BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Benthyciadau Bounce Back

Byddai’r cynllun benthyciadau Bounce Back yn helpu i gryfhau’r pecyn cymorth presennol sydd ar gael i’r busnesau lleiaf a effeithiwyd gan y pandemig coronafeirws.

Mae’r Cynllun Benthyciad Adfer yn galluogi busnesau i gael benthyciad chwe blynedd ar gyfradd llog wedi’i gosod gan y llywodraeth o 2.5% y flwyddyn.

Dyma’r manylion:

  • benthyciad o hyd at £50,000 – bydd benthyciadau o £2,000 i hyd at 25% o drosiant busnes neu £50,000, pa bynnag un sydd isaf.
  • gwarant 100% - mae’r cynllun yn warant lawn (100%) a gefnogir gan y llywodraeth yn erbyn balans heb ei dalu’r cyfleuster, o ran cyfalaf a llog.
  • cyfradd llog – mae’r llywodraeth wedi pennu cyfradd llog o 2.5% y flwyddyn ar gyfer y cyfleuster hwn, sy’n golygu y bydd pob busnes yn elwa ar yr un gyfradd llog isel.
  • bydd y llywodraeth yn talu’r llog am 12 mis - bydd llywodraeth y DU yn gwneud Taliad Tarfu ar Fusnes i’r benthycwyr i dalu llog sy’n daladwy am y 12 mis cyntaf, felly bydd busnesau yn elwa ar beidio â thalu unrhyw gostau a delir ymlaen llaw.

Gall cwmnïau gael gafael ar y benthyciadau hyn trwy rwydwaith o fenthycwyr achrededig.

Ni allwch wneud cais os ydych chi eisoes yn hawlio o dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS).

I wneud cais am Fenthyciad Adfer, ewch i wefan GOV.UK.

Mae rheolau llawn y cynllun a chanllawiau ar gael ar wefan British Business Bank.

Ewch i’n tudalen Covid-19 Cymorth i Fusnesau ar ein gwefan i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.