BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cylild newydd i gefnogi ffermwyr llaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf gan yr amodau eithriadol diweddar yn y farchnad o ganlyniad i COVID-19.

Roedd y sector llaeth wedi teimlo effaith y pandemig byd-eang ar unwaith, o ganlyniad i gau y sectorau gwasanaethau bwyd a lletygarwch.

I gefnogi’r sector yn ystod y cyfnodau heriol hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gan ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill ac wedi hynny ym mis Mai hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70% o’r incwm y maent wedi ei golli.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd. 

Bydd rhagor o fanylion am y cynllun yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.