BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cymorth ar gyfer Cyflogwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith

Mae’r wefan Employer Help gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cyngor amrywiol i helpu’ch busnes i oresgyn heriau sy’n gysylltiedig â’r pandemig COVID-19.

Os oes angen i’ch busnes ehangu yn gyflym, neu os ydych chi’n poeni am ddiswyddiadau, gallwch ddod o hyd i gyngor ar y camau nesaf a’r ffyrdd orau o gefnogi’ch staff, gan gynnwys:

  • hysbysebu eich swyddi gwag
  • cymorth ariannol ar gyfer eich busnes
  • cymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith
  • canfod cymorth i fusnes yn sgil y Coronafeirws
  • cymorth i chwilio am swydd i’ch staff
  • cymorth ariannol i’ch staff
  • gwefan chwlio am swyddi newydd i’ch staff
  • adnoddau

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Employer Help.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.