BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Gweithwyr hunangyflogedig yn cael eu gwahodd i baratoi ar gyfer gwneud eu ceisiadau am gymorth yn sgil y coronafeirws

Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn dechrau cysylltu â chwsmeriaid a allai fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (SEISS).

Mae unigolion yn gymwys os yw eu busnesau wedi’u heffeithio’n niweidiol gan y coronafeirws, os ydyn nhw wedi bod yn masnachu yn y flwyddyn dreth 2019 i 2020, os ydyn nhw’n bwriadu parhau i fasnachu, a’u bod yn:

  • ennill o leiaf hanner eu hincwm drwy hunangyflogaeth
  • heb elw masnachu o fwy na £50,000 y flwyddyn
  • wedi masnachu yn y flwyddyn dreth 2018 i 2019 ac wedi cyflwyno eu ffurflenni treth Hunanasesu ar neu cyn 23 Ebrill 2020 ar gyfer y flwyddyn honno.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.