BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Llinell gymorth ar gyfer y Sector Busnesau Cymdeithasol yng Nghymru

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi lansio Llinell Gymorth Covid-19 ar gyfer y sector busnesau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru a’u tîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i helpu gydag ymholiadau am lif arian, adnoddau dynol, llwyfannau digidol, marchnata a chyfathrebu, ac amrywiaeth o feysydd eraill a allai fod angen ail-feddwl amdanynt yng nghyswllt y Coronafeirws.

Maent yn gallu rhoi cyngor dros y ffôn neu drwy gynhadledd fideo. Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn ar 0300 111 5050 neu drwy e-bost sbwenquiries@wales.coop  os oes angen cymorth arnoch.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Busnes Cymdeithasol Cymru.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau am y coronafeirws gan Busnes Cymru er mwyn gael gwybodaeth ynghylch sut gall eich busnes ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.