Busnesau lletygarwch yng Nghymru i gau am 10pm, daw hyn wrth i fesurau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru i atal argyfwng newydd oherwydd y coronafeirws.
O ddydd Iau ymlaen, gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig y bydd busnesau lletygarwch yn cael ei gynnig, a bydd siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, yn gorfod rhoi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.
Mae’r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cydgysylltiedig sy’n cael eu rhoi ar waith ledled y Deyrnas Unedig i reoli lledaeniad y coronafeirws. Byddant yn dod i rym am 6pm ddydd Iau, 24 Medi 2020.
I helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach, cyhoeddodd Prif Weinidog y camau canlynol hefyd:
- taliad newydd o £500 i helpu pobl ar incwm isel os gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd bod y coronafeirws arnynt
- rheoliadau cryfach i sicrhau bod cyflogwyr yn cefnogi pobl sy’n gorfod
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru:
- Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin
- Busnesau lletygarwch a manwerthu: cwestiynau cyffredin
Mae'r Canghellor Rishi Sunak hefyd wedi amlinellu cymorth ychwanegol gan y llywodraeth i roi sicrwydd i fusnesau a gweithwyr ledled y DU sydd wedi cael eu heffeithio gan coronafeirws, gan gyhoeddi:
• toriadau a gohiriadau treth
• hyblygrwydd i fusnesau ad-dalu benthyciadau
• cynllun cefnogi swyddi newydd
Am fanylion pellach ewch i wefan gov.uk.
Bwrwch olwg ar dudalennau COVID-19 – Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.