BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Arloesedd Wythnos Addysg Oedolion 2024

Adult Learners Week

Cynhelir yr Wythnos Addysg Oedolion, a gaiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, yn ystod 9 i 15 Medi 2024.

Mae’r ymgyrch flynyddol yn gyfle arbennig i bobl gofleidio ail gyfle ar addysg a gwaith, gan arddangos effaith rymus dysgu gydol oes yng Nghymru.

Bob blwyddyn mae’r ymgyrch yn ysbrydoli miloedd o bobl i fynychu digwyddiadau arbennig, cofrestru ar gyfer cyrsiau a cheisio cyngor ac arweiniad ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gynyddu eu sgiliau, gwella eu hyder a’u llesiant, darganfod hobïau newydd, a gwneud cysylltiadau newydd.

Dewch yn bartner i’r ymgyrch: gan wneud dysgu gydol oes yn fwy hygyrch a gweladwy i oedolion ledled Cymru.

Mae Dysgu a Gwaith yn gwahodd sefydliadau ar draws Cymru i ymuno â’u rhwydwaith o bartneriaid i gynllunio a chofrestru eu gweithgareddau, a gaiff eu hyrwyddo fel rhan o ymgyrch amlgyfrwng ledled Cymru. Gall sefydliadau sy’n newydd i’r ymgyrch gofrestru eu diddordeb yma.

Mae Cronfa Arloesedd Wythnos Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith hefyd ar gael ar gyfer sefydliadau yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgaredd dysgu ar-lein ac wyneb i wyneb ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion a drwy gydol mis Medi 2024.

Bwriedir i’r gronfa grantiau hyrwyddo a chefnogi creu sesiynau blasu ar-lein a/neu wyneb yn wyneb, digwyddiadau, cyrsiau, dyddiau agored, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr neu ddysgu fel teulu rhad ac am ddim – dylai ffocws gweithgareddau fod ar ddysgu ar gyfer oedolion.

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 16 Awst 2024.

Mae mwy o wybodaeth a dolenni i’r ffurflen gais  ar gael ar wefan Dysgu a Gwaith.

I gael mwy o wybodaeth dewiswch y ddolen ddilynol Cronfa Arloesedd yr Wythnos Addysg Oedolion – Sefydliad Dysgu a Gwaith.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.