Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
Amcan y gronfa yw ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Bydd y Gronfa yn cefnogi:
- Busnesau wedi cael eu heffeithio rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 ac wedi cau oherwydd y rheoliadau ar 26 Rhagfyr 2021.
- Gofod Digwyddiadau ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan gyfyngiadau rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
- Busnesau eraill sydd â mwy na 50% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
Ac (yn berthnasol i bawb):
- Wedi cael eu heffeithio yn sylweddol drwy lai o drosiant o 50% neu fwy rhwng mis Rhagfyr 2021 a Chwefror 2022 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019 a mis Chwefror 2020.
Bydd unrhyw gyllid Covid 19 yn y dyfodol a allai fod ar gael ar gyfer grwpiau neu sectorau penodol yn ystyried cyllid a ddyfernir o dan y rownd hon o'r Gronfa Cadernid Economaidd. Gall hyn arwain at addasiad neu ddidyniad mewn unrhyw gynlluniau yn y dyfodol.
Mae ceisiadau a weinyddir gan Llywodraeth Cymru am y Gronfa Cadernid Economaidd gyda throsiant uwch na £85,000 bellach ar agor, i gael gwybod a ydych yn gymwys ac i wneud cais ewch i COVID-19 Cymorth i Fusnes | Drupal (gov.wales)