Mae Cronfa Datblygu Media Cymru yn cynnig hyd at £50,000 i unigolion a busnesau yng Nghymru ymchwilio a datblygu prosiectau arloesol sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch, profiad neu wasanaeth diriaethol yn sector y cyfryngau.
Mae Media Cymru eisiau ariannu syniadau sydd â manteision economaidd hirdymor i sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd neu Gymru.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n canolbwyntio ar:
- Cynhyrchu rhithwir
- Cynnwys sy’n gysylltiedig â chreu lleoedd a thwristiaeth
- Storïa trochol
- Technolegau realiti estynedig (AR, VR, MR ac ati)
- Offer sy’n cynorthwyo â chynhyrchu, dosbarthu a defnyddio cyfryngau sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol
- Datblygu dulliau i wella’r broses gynhyrchu
- Gemau
- Offer sy’n annog datblygu modelau busnes newydd a chynhwysol o fewn sector y cyfryngau
- Cynhyrchiad dwyieithog neu amlieithog
Cyfnod ymgeisio’n dod i ben: 12pm dydd Gwener, 15 Medi 2023.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Ffrwd Arloesedd - Media Cymru (CYM)