Mae Cronfa Gweithgynhyrchu Arloesol Gwyddorau Bywyd (LSIMF) yn rhan o Gronfa Fuddsoddi Prydain Fyd-eang, a bydd £354 miliwn ohono'n cefnogi’r gwaith o weithgynhyrchu ym maes gwyddorau bywyd.
Bydd yr LSIMF ei hun yn darparu £60 miliwn mewn grantiau cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn y gwaith o weithgynhyrchu:
• meddyginiaethau dynol (cynnyrch cyffuriau a chyffuriau)
• diagnosteg feddygol
• Cynhyrchion MedTech
Anogir ceisiadau yn enwedig gan gwmnïau sy'n barod i ddefnyddio eu technolegau newydd ar raddfa fawr ym maes gweithgynhyrchu masnachol.
Mae rhagor o fanylion am feini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais ar gael yma: Life Sciences Innovative Manufacturing Fund (LSIMF) - GOV.UK (www.gov.uk)
Dylid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb drwy'r ddolen hon Log in - LSIMF applications (beis.gov.uk) erbyn dydd Iau 31 Mawrth 2022 am hanner dydd. Bydd dyddiadau cau pellach ar gyfer y cam cyllid hwn ym mis Ebrill a mis Mai.
Bydd cam un yn cael ei asesu dros y cyfnod hwn o dri mis a bydd cam dau yn dechrau ym mis Medi gyda phatrwm tebyg o derfynau amser. Anogir ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar gan y bydd y gronfa'n cau unwaith y bydd yr holl gyllid yn cael ei ddyrannu.