Y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol (IOE&IT) yw’r corff aelodaeth broffesiynol sy’n cynrychioli a chefnogi buddiannau pawb sy’n ymwneud â mewnforio, allforio a masnach ryngwladol.
Mae’r IOE&IT wedi lansio Rhaglen Cymorth Allforio gwerth £5 miliwn i helpu busnesau yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhaglen yn darparu pecyn wedi’i deilwra o hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghoriaeth i allforwyr i adlewyrchu eu hamgylchiadau a’u hanghenion.
Lluniwyd y pecyn cymorth gan arbenigwyr diwydiant, gan ystyried y rhwystrau mwyaf cyffredin ac anodd sy’n wynebu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) sy’n dymuno allforio.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol IOE&IT Export Support Package | Get Started In Trade
Ydych chi’n dechrau neu’n tyfu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth, canllawiau a chyngor.
Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth Hafan | Busnes Cymru - Allforio (llyw.cymru)