BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford

Cronfa newydd gwerth £1.8 miliwn i annog arloesi yng Nghymru mewn technoleg cerbydau carbon isel.

Bydd Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o etifeddiaeth Ford yng Nghymru, yn mynd i'r afael â heriau technegol diwydiannol strategol sy'n gysylltiedig â cherbydau carbon isel. 

Bydd ffocws clir ar fasnacheiddio a manteisio ar gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd a chapasiti cynyddol mewn technolegau carbon isel.

Rhaid i brosiectau gyd-fynd ag un o'r Mapiau Ffordd canlynol gan y Cyngor Modurol:

  • Storio Ynni Trydanol
  • Peiriannau Trydan
  • Electroneg Pŵer
  • Cell Tanwydd
  • Strwythur Cerbydau Ysgafn a Powertrain

Dyddiadau allweddol:

  • 20 Medi 2021: cystadleuaeth yn agor
  • 23 Medi 2021: digwyddiad briffio rhithwir
  • 1 Tachwedd 2021 12pm: dyddiad cau ar gyfer gwneud cais

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa gan gynnwys sut i wneud cais, ewch i  Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.