Mae'r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol yn cynnig cyllid grant ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg, ac ar gyfer cyflwyno prosiectau effeithlonrwydd ynni diwydiannol a phrosiectau datgarboneiddio mawr.
O fragu cwrw i ffa pob, ffermydd llaeth a sment, mae 25 o fusnesau ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi cael bron i £52 miliwn i leihau eu hallyriadau carbon er mwyn hybu cenhadaeth y DU fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid i ddod yn bŵer dylanwadol ym maes ynni glân a chyflymu’r broses i gyrraedd sero net, gan gefnogi swyddi a thwf economaidd.
Mae’r ddau enillydd Cymreig yn cynnwys £7.6 miliwn allan o gyfanswm o £51.9 miliwn mewn cyllid y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol a £20.4 miliwn o gyfanswm costau’r prosiect o £154miliwn sy’n cael ei gyhoeddi:
- Hanson Cement yng Ngogledd Cymru yn defnyddio ei grant o £5.6 miliwn i gefnogi ei brosiect dal a storio carbon gwerth miliynau o bunnoedd – gan greu cannoedd o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a dal 800,000 tunnell o allyriadau CO2 y flwyddyn unwaith y bydd yn weithredol – sy’n cyfateb i gymryd 320,000 o geir oddi ar y ffordd.
- Envirowales Limited ym Mlaenau Gwent yn ailgylchu 70,000 tunnell o fatris asid plwm y flwyddyn yn ei gyfleuster yng Nglynebwy. Fel un o weithfeydd mwyaf newydd Ewrop, gydag effeithlonrwydd ailgylchu o fwy na 95% a chydymffurfiaeth amgylcheddol llym, mae’r busnes yn canolbwyntio ar berfformiad ‘gorau yn y dosbarth’ gyda phwyslais ar welliant parhaus. Pwrpas y prosiect yw gwella effeithlonrwydd gweithredol y broses pyrometallurgical yn wrthrychol. Bydd ffwrneisi gwell, systemau rheoli ffwrneisi ac awyru yn lleihau'r defnydd o lo, nwy naturiol, ocsigen ac adweithyddion, ac yn lleihau cynhyrchion gwastraff gan gynnwys CO2 ac sgil-gynhyrchion i safleoedd tirlenwi.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhain ac enillwyr y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol eraill, ewch i: