BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol yn lansio cyfnod gystadlu Cam 2 newydd gwerth £70 miliwn

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi lansio cyfnod gystadlu Cam 2: Hydref 2022 o’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF).

Gall busnesau yng Nghymru wneud cais am gyfran o hyd at £70 miliwn o gyllid grant drwy'r cyfnod cystadlu, a fydd ar agor o 10 Hydref 2022 i 13 Ionawr 2023. Dyma'r cyfnod ymgeisio olaf sydd wedi'i gynllunio ar hyn o bryd ac anogir ymgeiswyr i wneud cais os oes ganddynt brosiect addas.

I weld y canllawiau i ymgeiswyr a gwneud cais am gyllid, ewch i’r tudalen cystadleath. Trwy yr cyfnod cystadlu ymgeisio hon, bydd yr IETF hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni a / neu leihau allyriadau peiriannau symudol nad ydynt ar y ffordd.

Rhaid i'r peirianwaith fod yn angenrheidiol ar gyfer, ac yn rhan o'r broses ddiwydiannol sydd wedi'i lleoli o fewn ffin y safle cymwys.

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2: Digwyddiad rhanddeiliaid Hydref 2022

Mae BEIS yn eich gwahodd i ymuno â gweminar ar-lein IETF Cam 2: Hydref 2022 ddydd Mawrth 11 Hydref 2022. I gofrestru ar gyfer y gweminar, ewch i'r wefan cofrestru

Bydd BEIS yn cynnig clinigau rhanddeiliaid bob pythefnos drwy gydol y cystadleuaeth. Bydd manylion pellach yn cael eu rhannu maes o law. Gall ymgeiswyr hefyd weld fideos gan enillwyr y gorffennol a chyflenwyr technolegau cymwys ar ein Marchnad Dechnoleg Rhithwir. I gofrestru ar gyfer y Farchnad Dechnoleg, ewch i’r wefan gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gystadleuaeth Cam 2 neu os hoffech drafod cais posibl, cysylltwch â IETF@beis.gov.uk. Mae BEIS hefyd wedi cyhoeddi atebion i Gwestiynau Cyffredin.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.