BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa’r Pethau Pwysig 2022-2023 (cylch Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol)

Diben cronfa’r Pethau Pwysig yw darparu cyfalaf ar gyfer cyflawni gwelliannau sylfaenol ar raddfa fach i seilwaith twristiaeth ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy trwy gydol eu harhosiad.

Bydd cronfa y Pethau Pwysig 2022-23 yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiadau strategol mewn cyrchfannau twristiaeth allweddol a bydd felly’n agored i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn unig.

Mae ffurflenni Datgan Diddordeb bellach ar gael.

Y dyddiad cau ar gyfer Datgan Diddordeb yw 4 Mawrth 2022, a dylid llenwi a chyflwyno’r ffurflenni erbyn hanner dydd fan bellaf i RegionalTourism@llyw.cymru

Am ragor o wybodaeth gweler: Cyllid | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.