BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cwmnïau o Gymru yn ymweld ag America i hybu cysylltiadau masnach ac allforio

Mae saith o fusnesau o Gymru sydd ag arbenigedd sy’n amrywio o faes peirianneg a gofal cleifion i chwaraeon ar lawr gwlad yn mynd i UDA yr wythnos hon fel rhan o daith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynrychiolwyr yn mynd i Ogledd Carolina a De Carolina, lle byddant yn cwrdd â busnesau a chwsmeriaid a phartneriaid newydd posibl. Mae'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru a gwerthu i'r byd, fel rhan o'i Chynllun Gweithredu ar gyfer Allforio.

Dyma'r tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â'r Carolinas sydd â phoblogaeth gyfunol o 15 miliwn.

UDA yw prif farchnad allforio Cymru ar gyfer nwyddau, gan gyfrif am 15.7% (£2.9bn) o gyfanswm allforion nwyddau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd gwerth allforion nwyddau Cymru i'r UDA 69.6% (£1.2 biliwn). Mae'r De yn rhanbarth sy'n tyfu'n gyflym yn UDA gyda chyfleoedd economaidd amrywiol.

Yn sgil y cryfder o ran diwydiannau, costau cystadleuol wrth wneud busnes, ac amgylchedd sydd o blaid busnes, mae'r rhanbarth yn cynnig mynedfa i fusnesau Cymru sydd â diddordeb mewn allforio i UDA.

Mae'r daith yn rhan o gyfres o weithgareddau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd FIFA yn Qatar, lle bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn UDA.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://llyw.cymru/cwmniau-o-gymru-yn-ymweld-ag-america-i-hybu-cysylltiadau-masnach-ac-allforio 

Allforio - Trawsnewid Eich Busnes
Dechrau neu dyfu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth, canllawiau a chyngor, i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://businesswales.gov.wales/export/cy 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.