BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cwrs Ar-lein 10,000 o Fenywod Goldman Sachs

Trwy 10,000 o Fenywod, mae Goldman Sachs yn darparu'r addysg, y cyfleoedd a mynediad at gyfalaf sydd eu hangen ar fenywod i dyfu eu busnesau.

Mae cwrs ar-lein 10,000 o Fenywod Goldman Sachs yn rhaglen addysg fusnes ymarferol, am ddim, sydd ar gael i bob menyw ledled y byd.

Ynglŷn â'r Rhaglen Ar-lein

Ar gyfer pwy y mae’r cwrs?

Mae 10,000 o Fenywod ar agor i unrhyw un gofrestru ar ei gyfer. Bwriad y casgliad oedd bodloni anghenion perchnogion busnes benywaidd mewn economïau sy'n dod i'r amlwg; fodd bynnag, nid oes meini prawf cymhwysedd i gymryd rhan. Os ydych chi'n barod i dyfu eich busnes, byddwch yn elwa ar yr ystod o bynciau sy'n cael eu trafod yn y casgliad arloesol hwn o gyrsiau ar-lein.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Goldman Sachs | 10,000 Women

Nod Cefnogi Menywod yng Nghymru yw cynyddu nifer yr entrepreneuriaid sy’n fenywod yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.