Mae'r Adran Busnes a Masnach yn trefnu cyfres o gyfarfodydd Bord Gron ar ofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth ledled y DU.
Gall darparu gofal gynnwys llawer o wahanol amgylchiadau, gan gynnwys darparu cymorth i riant oedrannus, gofalu am bartner â chyflwr iechyd hirdymor neu ofalu am blentyn sydd ag anabledd.
Mae’r Adran Busnes a Masnach am glywed gan uwch reolwyr, arweinwyr AD a chyrff masnach a diwydiant am yr hyn sydd wedi gweithio ar gyfer cefnogi pobl sy’n ymrafael â gweithio tra’n gofalu am rywun annwyl.
Cynhelir dau gyfarfod bord gron yng Nghaerdydd ar 11 Chwefror 2025.
Manylion isod:
- Sesiwn y bore, rhwng 10am a 12pm, wedi'i hanelu at fusnesau a sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau, er mwyn deall beth sydd wedi bod yn effeithiol wrth iddynt gefnogi gofalwyr di-dâl yn y gwaith, ac unrhyw heriau cysylltiedig y maent wedi'u hwynebu yn eu busnesau. I archebu eich lle dewiswch y ddolen ganlynol: Employer Roundtable - Supporting Working Carers
- Sesiwn y prynhawn, a gynhelir rhwng 2pm a 4pm, wedi'i hanelu at arbenigwyr o'r sectorau elusennol ac undebau sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl mewn gwaith er mwyn meithrin dealltwriaeth o weithredu Deddf Absenoldeb Gofalwyr 2023, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024, ac ystyried cyfleoedd i wella ymwybyddiaeth a’r nifer sy’n manteisio arnynt, a myfyrio ar ei heffeithiau. I archebu eich lle dewiswch y ddolen ganlynol: Expert Roundtables - Supporting Working Carers
I gael rhagor o wybodaeth am absenoldeb Gofalwyr, dyma rai dolenni perthnasol: