BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Cyflawni Uniondeb

Mae byw eich bywyd o fewn fframwaith gonestrwydd ac ymddiriedaeth yn allweddol i ennill parch trwy uniondeb ac mae’n hanfodol wrth feithrin perthnasoedd pwysig a all eich helpu i gyrraedd y man lle’r ydych am fod. Bydd cyfleu uniondeb yn cael effaith rymus ar hybu eich enw da, y mae angen i chi ei feithrin a’i amddiffyn i gyflawni llwyddiant. Gall niweidio’ch enw da wneud tolc mawr yn eich uchelgais. Bydd ymarfer gonestrwydd ac ymddiriedaeth yn eich helpu i adeiladu bywyd a phroffesiwn cynaliadwy a hynod fuddiol. O ganlyniad i’ch uniondeb, bydd pobl yn gwyro tuag atoch yn naturiol.

Os bydd rhywun yn ennill enw da am fod “yn gynnil gyda’r gwirionedd”, bydd eu statws yn y gymuned yn dioddef, oherwydd fe’u hystyrir yn amhroffesiynol ac yn annibynadwy. Y ffaith yw, mae negeseuon negyddol yn lledaenu’n gyflym iawn a, phan fyddwch wedi ennill enw drwg, gall fod yn anodd iawn diosg hynny. Heddiw, mae globaleiddio a’r defnydd cynyddol o sianeli’r cyfryngau cymdeithasol yn golygu y gall ymddygiadau cas gael eu cyfleu i filoedd o bobl, yn llythrennol, o fewn eiliadau.

Yn anochel, mae llwyddiant yn golygu bod rhaid i chi feithrin perthnasoedd sydd o fudd i chi ac eraill. Bydd y rhain yn ffynnu trwy’r didwylledd a adeiladwyd ar ymrwymiad i ymddiriedaeth a gonestrwydd. Mae hyn yn helpu i greu sylfaen partneriaethau a thimau hynod effeithiol – sydd wedi’u cymell i lwyddo. Ni allwch ymuno ag unrhyw fath o fenter ar y cyd dim ond trwy ofyn i rywun ymddiried ynoch. Mae’n rhaid ennill ymddiriedaeth, sy’n golygu y bydd ymrwymiad rhagweithiol i anrhydeddu’r addewidion a wnewch yn cryfhau’r rhwymau gyda’r bobl sy’n bwysig i chi.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.