Bydd cyfnod Pontio’r DU yn dod i ben ar 1 Ionawr 2021. Mae angen i fusnesau sy’n gweithio gyda chemegion sicrhau eu bod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.
Mae’r canllawiau diweddaraf ar sut y gall Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar gael ar dudalennau gwe’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys:
- Y drefn BPR (awdurdodi sylweddau a chynhyrchion bioladdol)
- Y drefn CLP (dosbarthu, labelu a phecynnu sylweddau a chemegion)
- Y drefn PIC (cydsyniad ymlaen llaw)
- Y drefn UK REACH (cofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu ar gemegion).
Mae canllawiau Prydain Fawr ar gyfer y drefn PPP (Plaleiddiaid neu Gynhyrchion Diogelu Planhigion) yn parhau yn ddilys. Bydd diweddariadau pellach i ganllawiau’r PPP yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mynediad at gyfres podlediadau Pontio’r DU: Gweithio gyda Chemegion
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal cyfres o bodlediadau i ddarparu rhagor o wybodaeth am y newidiadau i sut y bydd cemegion yn cael eu rheoleiddio o 1 Ionawr 2021.
Defnyddiwch y ddolen ganlynol am fynediad am ddim a chymorth i baratoi eich busnes ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.
https://public.govdelivery.com/accounts/UKHSE/signup/18867