BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r UE: Gweminarau Fframwaith Sancsiynau’r UE

Mae fframwaith sancsiynau’r DU yn newid, mae cyfundrefnau sancsiynau presennol yr UE yn cael eu trosglwyddo i gyfraith y DU drwy reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian 2018.

Ni fydd sancsiynau’r UE yn gymwys mwyach yn y DU o 11pm ar 31 Rhagfyr 2020.

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o weminarau i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r ddeddfwriaeth a’r prosesau newydd effeithio ar eich gwaith, a’r hyn y bydd angen i chi ei wneud i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau. Mae gweminarau ar gyfer y sectorau Cyllid, Cyfreithiol a Chyrff Anllywodraethol eisoes wedi’u cynnal, a chynhelir 3 sesiwn arall ar gyfer y canlynol:

  • Y sector preifat ehangach (mynychwch y sesiwn hon os nad oedd eich sector wedi’i gynnwys mewn gweminarau eraill neu os nad oeddech yn gallu eu mynychu) – dydd Mercher 18 Tachwedd, 10am i 11am – Cofrestrwch yma
  • Y sector masnach rhyngwladol – dydd Iau 19 Tachwedd, 9am i 10pm – Cofrestrwch yma

Bydd y siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu, Trysorlys Ei Mawrhydi, yr Adran Masnach Ryngwladol ac adrannau eraill y llywodraeth.

Cewch gyfle i ofyn cwestiynau i’ch helpu i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

I gael rhagor o wybodaeth am sancsiynau a chydymffurfiaeth y DU, darllenwch ganllawiau llywodraeth y DU ar gyfundrefnau sancsiynau cyfredol, a’r ddeddfwriaeth newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.