BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau llog taliadau hwyr CThEF yn cael eu diwygio Mehefin 2023

Pleidleisiodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ar 22 Mehefin 2023 i gynyddu cyfradd sylfaenol Banc Lloegr i 5% o 4.5%.

Mae cyfraddau llog CThEF yn gysylltiedig â chyfradd sylfaen Banc Lloegr.

O ganlyniad i'r newid yn y gyfradd sylfaenol, bydd cyfraddau llog CThEF ar gyfer talu'n hwyr ac ad-dalu yn cynyddu.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar:

  • 3 Gorffennaf 2023 am randaliadau chwarterol
  • 11 Gorffennaf 2023 am randaliadau heb fod yn rhai chwarterol

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol HMRC late payment interest rates to be revised after Bank of England increases base rate - GOV.UK (www.gov.uk)

Rheoli eich arian

Rhan hanfodol o redeg busnes llwyddiannus yw gofalu am eich arian. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Rheoli eich arian | Drupal (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.