BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfres Genedlaethol Gwobrau StartUp

Mae Gwobrau StartUp yn gydweithrediad rhwng sylfaenwyr Great British Entrepreneur Awards a Gwobrau Startup Cymru, yr unig wobrau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n dathlu busnesau newydd yn y DU ar hyn o bryd.

Mae Gwobrau StartUp yn cydnabod cyflawniadau'r unigolion anhygoel hynny sydd wedi cael syniad gwych, wedi sylwi ar y cyfle ac wedi mentro lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.

Gyda 30 categori i ddewis ohonynt, cyflwynwch eich ceisiadau cyn y dyddiad cau, sef 24 Chwefror 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol StartUp Awards | Categories (freshbusinessthinking.com)

O ddatblygu cynlluniau busnes, i sicrhau cyllid a chyflogi staff ychwanegol, gall Busnes Cymru gynnig ystod eang o wasanaethau cymorth i helpu’ch busnes dyfu a chynyddu ei botensial. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy Dechrau a Chynllunio Busnes | Busnes Cymru (gov.wales) 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.