Mae busnesau yng Nghymru yn gymwys i gael cymelldaliadau sydd ar gyfer cyflogi prentisiaid newydd.
Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol o ran darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a’r economi, gan gynnig cyfle i recriwtio mewn ffordd gosteffeithiol ac adeiladu gweithlu medrus.
Gall unrhyw gyflogwr yng Nghymru, ni waeth beth fo maint ei fusnes na’r sector y mae’n gweithio ynddo, elwa ar y cymelldaliadau i recriwtio prentisiaid:
- cymelldaliad sydd werth hyd at £3,000 ar gyfer cyflogi prentis newydd
- cymelldaliad sydd werth hyd at £2,600 ar gyfer ailgyflogi prentis sydd wedi’i ddiswyddo
- cymelldaliad o £1,500 ar gyfer cyflogi prentis anabl, y gellir ei hawlio yn ychwanegol at y cymelldaliadau ar gyfer prentisiaid newydd a phrentisiaid wedi’u diswyddo
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Porth Sgiliau Busnes Cymru.