BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi gradd-brentisiaethau newydd i helpu i adeiladu Cymru'r dyfodol

Jac Beynon

Prifysgolion a diwydiant yn croesawu lansio rhaglenni o hyd at bedair blynedd a ariennir yn llawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â thair prifysgol i lansio gradd-brentisiaethau newydd mewn Rheoli Adeiladu, Peirianneg Sifil, Mesur Meintiau, Arolygu Adeiladau, ac Eiddo Tiriog.

Gyda'r sector adeiladu ei hun angen 11,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2028, mae'r gradd-brentisiaethau newydd yn cael eu cyflwyno ar adeg dyngedfennol.

Gan ddechrau ym mis Medi 2024, bydd y rhaglenni pedair blynedd hyn, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill gradd wrth gael profiad ymarferol mewn cyflogaeth. Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyhoeddi gradd-brentisiaethau newydd i helpu i adeiladu Cymru'r dyfodol | LLYW.CYMRU

Mae gan Gymru Raglen Brentisiaeth hynod lwyddiannus, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu ansawdd uchel, y llwybrau sgiliau cywir a'r lefel gywir o gymorth i helpu i sicrhau gwydnwch economaidd. Mae prentisiaethau yn rhan bwysig o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru i bobl ifanc 16-24 oed.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.