Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru.
O ddydd Llun 1 Mehefin 2020, bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws.
Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref, i leihau’r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu o ardal i ardal.
Mae’r newidiadau yn golygu y gall pobl gyfarfod ag aelodau o aelwyd wahanol yn yr awyr agored yn ei hardal leol ond bydd yr holl reolau eraill i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws yn parhau ar hyn o bryd.
Dylai busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol, ddechrau paratoi i ailagor yn ystod y tair wythnos nesaf.
Bydd penderfyniad a fydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn ailagor yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf ar 18 Mehefin a bydd yn dibynnu ar y dystiolaeth wyddonol a meddygol.
Bydd mannau prydferth a safleoedd twristaidd yn parhau ar gau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.