Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn elfen graidd o gynnig Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Cymru i fusnesau. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd yn ei chyfraniad cyllid ar gyfer Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth i’w gwneud yn fwy hygyrch a chost-effeithiol i BBaChau yng Nghymru, ac er mwyn annog mwy o fusnesau i elwa ar y rhaglen. Yn y lle cyntaf, 27 Ionawr 2021 oedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ond mae wedi’i ymestyn i 30 Mehefin 2021 nawr.
Yn sgil yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, bydd yr estyniad hwn i’r dyddiad cau yn galluogi i BBaChau cymwys o Gymru hawlio 75% o gostau prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am sut gall partneriaeth gydweithredol â phrifysgol, coleg, sefydliad ymchwil neu gatapwlt helpu’ch busnes ar gael ar wefan KTP.