Mae ffermwr a gafodd anafiadau difrifol ar ei fferm deuluol wedi croesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn darparu £80,000 i helpu i wella diogelwch ffermwyr, eu teuluoedd, ac ymwelwyr â ffermydd yng Nghymru.
Mae gan y ffermwr defaid a chig eidion o ogledd Cymru, Beca Glyn brofiad uniongyrchol o'r hyn all fynd o'i le ar fferm ar ôl dioddef anafiadau difrifol mewn damwain beic cwad ar fferm ei theulu yn 2018.
Mae'r cyllid yn cael ei ddyfarnu i Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sy'n gydweithrediad o sefydliadau amaethyddol allweddol sy'n helpu i leihau nifer y digwyddiadau difrifol a'r marwolaethau ar ffermydd Cymru.
Bydd yr £80,000 yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch, iechyd a llesiant ar ffermydd drwy ddigwyddiadau, gweithio gydag ysgolion a CFfI Cymru, yn ogystal â llyfr plant newydd ar gadw'n ddiogel ar ffermydd.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Cyllid i helpu i wella diogelwch ar ffermydd Cymru | LLYW.CYMRU