Iechyd a Diogelwch

Arhoswch! A meddyliwch am ddiogelwch cyn dechrau unrhyw waith! Ydi o werth y risg


Rôl Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn y lle cyntaf, trwy sefydliadau cysylltiedig, yw darbwyllo ffermwyr yng Nghymru bod yna heriau iechyd a diogelwch difrifol ar ein ffermydd. Yn ail, mae’n rhoi cyngor ac arweiniad mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn gwella’r sefyllfa ac achub bywydau ar ein ffermydd.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae diwydiannau eraill fel adeiladu a chwarela wedi gwella’u safonau diogelwch yn wahanol i’r diwydiant ffermio, a bellach rydych chi chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd ar y fferm nag ar safle adeiladu.

Mae pob sefydliad sydd wedi cofrestru ar y ‘Siarter Iechyd a Diogelwch ar y Fferm’ wedi ymrwymo i’r egwyddor:

“Cydweithio i wneud ffermio’n ddiogel”

 

Mae'r weithrediaeth Iechyd a Diogelwch (HSE) yn rheoleiddio ac yn gweithredu Iechyd a Diogelwch. Ar eu gwefan mae'r holl ddeddfwriaeth a chyngor perthnasol ar weithio'n ddiogel.

Gwefan HSE

Pethau i'w hystyried wrth gychwyn ar unrhyw dasg ar Fferm

The Personal Protective Equipment at Work (Amendment) Regulations 2022

LEAF Website | Code of Practice (visitmyfarm.org)



Yn yr adran hon


Tudalennau cysylltiedig:


Newyddion ac Erthyglau Technegol Diweddaraf yn Gysylltiedig â Iechyd a Diogelwch