Tir

Land image
0
Nifer y busnesau a gefnogwyd gyda chlinigau yn ymwneud â’r tir
0
Nifer y busnesau a gefnogwyd gyda chyngor isadeiledd
0
Nifer y grwpiau Agrisgôp a gefnogwyd
Mae tua 84% o dir Cymru yn cael ei ffermio. Diolch i'n hinsawdd fwyn a gwlyb, mae'r tir yn ddelfrydol ar gyfer tyfu glaswellt, ac mae’r priddoedd cyfoethog a ffrwythlon ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu cnydau âr a garddwriaeth.

Tystebau:

Scott Robinson
“Mae Cyswllt Ffermio wedi fy helpu i ddysgu mwy am arloesi, arfer gorau presennol a ffyrdd mwy effeithlon o weithio, i gyd yn allweddol i ffermwyr ar adeg pan mae angen i ni fod yn fwy ymwybodol o newid hinsawdd a diogelu’r amgylchedd.”
Scott Robinson
Sir Benfro
Dan
"Ers y rhaglen Rhagori ar Bori, rwyf wedi dechrau mesur y glaswellt a chymryd samplau glaswellt i’w dadansoddi er mwyn gweld faint o ddaioni sydd yn y glaswellt. Rydych yn dysgu cymaint o wneud hynny yn fy marn i ac mae’n rhoi llawer o hyder i chi bod yr hyn yr ydych yn ei wneud am wneud gwahaniaeth a bydd y glaswellt yn para’n hirach."
Dan Pritchard
Penrhyn Gŵyr
Llaeth Llanfair
“Dechreuodd ein taith arallgyfeirio gyda help technegol ac arweiniad gan Cyswllt Ffermio. Mae ein teulu ni wedi troi atynt droeon dros y blynyddoedd, gan drafod materion megis rheoli cynllunio maetholion ar gyfer y pridd, ein strategaeth pori a phynciau iechyd anifeiliaid, sydd oll wedi arwain at y tir yn perfformio i’r lefelau eithaf a bod ein buches o 400 o wartheg Freisian croes Jersey yn y cyflwr gorau posib i gynhyrchu llaeth o’r safon uchaf."
Laura Jones
Llanfair Fach
chainsaw
“Roedd ein hyfforddwr yn amlwg yn brofiadol iawn a dysgais sut i weithredu llif gadwyn yn ddiogel ac yn gywir. Rwy’n teimlo llawer mwy hyderus ar ôl yr hyfforddiant yma.”
Geoff Saunders
Sir Gaerfyrddin
Wyn and Eurig Jones
“Mae defnyddio dulliau mapio’r pridd yn fanwl gywir ar ein tir âr eleni wedi ein galluogi i wneud arbedion o £720 ar galch - yn hytrach na gwasgaru 170 tunnell ar gyfradd sefydlog ar gost o £5,100, mae’r mapiau gwasgaru ar gyfradd amrywiol wedi ein galluogi i wasgaru calch ar yr ardaloedd lle’r oedd ei angen, gan ostwng faint a wasgarwyd i 146 tunnell.”
Wyn ac Eurig Jones
Pantyderi, Aberteifi
Dafydd Jones
“Rhoddodd y cwrs Meistr ar Borfa yr hyder i mi gyflwyno system bori cylchdro ar y fferm deuluol, ac mae wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o botensial defnyddio’r system gyda’r fenter ddefaid.”
Dafydd Jones
Corwen

| E-ddysgu
Arallgyfeirio Garddwriaethol er Bioamrywiaeth
Bydd y modiwl hwn yn archwilio strategaethau arallgyfeirio allweddol i'w defnyddio mewn…
| E-ddysgu
Defnydd dŵr mewn garddwriaeth
Mae'r sector garddwriaethol yn dibynnu'n helaeth ar ddŵr o lawer o ffynonellau. Trwy ddefnyddio…
| Newyddion
Tyfu codlysiau gyda india-corn i gynyddu lefelau protein
Growing beans and sunflowers in its crop of forage maize has seen a Pembrokeshire dairy farm raise…
| Newyddion
Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn cylchdro tir âr yng Nghymru wedi dangos…
| Podlediadau
Rhifyn 128- Mantais Amaethgoedwigaeth – lloches, pridd a da byw
Gwrandewch i ddarganfod pam mae mwy a mwy o ffermwyr yn plannu coed er lles eu stoc, eu pridd, a’u…

Events

23 Maw 2026
Plant Propagation for Market gardens
Carmarthen
Join us at  Bremenda  Isaf for a practical...
24 Maw 2026
Hungry Gap and Tunnel Rotations
Carmarthen
Tunnels play  a very important  role in extending...
Fwy o Ddigwyddiadau