Podlediad Clust i'r Ddaear

Mae podlediad “Clust i’r Ddaear” y cyntaf o’i math i fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg, yn rhannu gwybodaeth dechnegol, cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i’r gymuned amaeth yng Nghymru.

Byddant yn benodau byr, 20/30 munud o hyd ac yn cynnwys cyfweliadau gyda ffermwyr ac arbenigwyr y diwydiant ar amrywiaeth o themâu amserol. Bydd pennod newydd yn cael ei chyhoeddi bob pythefnos.

 

 


 

RHIFYN DIWEDDARAF:

Rhifyn 77: Dringo'r ysgol Amaeth

Mae ail bennod yn ein cyfres newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth yn dod â phedwar ffermwr ifanc ynghyd a gafodd eu magu ar ffermydd teuluol yng Ngogledd Cymru. Mae'r pedwar wedi penderfynu sefydlu gyrfa eu hunain trwy gytundebau menter ar y cyd a rheolaeth fferm. Bydd y bennod hon yn clywed am y da ar drwg o sefydlu cytundebau menterau ar y cyd. Mae'r pedwar panelwr wedi mynychu Bwtcamp Busnes Cyswllt Ffermio yn y gorffennol ac wedi manteisio ar y raglen Mentro i greu llwybr llwyddiannus i ffermio cyfran. Mae'r bennod hon hefyd ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube trwy glicio yma.

Panel: Fydd Gwydion Owen, Swyddog Mentro Cyswllt Ffermio yn cael cwmni Emyr Owen, sydd newydd ei benodi yn Rheolwr Fferm ar Ystâd Rhug yng Nghorwen. Y brodyr Dafydd ac Ifan Owen, mae Dafydd yn rheoli 3000 o famogiaid yng Nghoed Coch, ger Bae Colwyn tra bod Ifan wedi mynd i bartneriaeth ar 600 erw o dir yn Nhŷ Newydd, Nebo, Llanrwst. Mae Ynyr Pugh wedi bod yn ffodus i sicrhau cytundeb menter ar y cyd dim ond 10 munud o’i gartref yn Ninas Mawddwy, Machynlleth.

 

 

Penodau Diweddar:

 

Rhifyn 72: Plannu coed yn gweithio ar gyfer uned laeth 500 o wartheg yn Hendre Llwyn y Maen

Fferm fynydd o tua 400 erw yw Hendre Llwyn y Maen yn codi hyd at 1100 troedfedd uwch lefel y môr . Mae Robin Crossley, y perchennog, yn amgylcheddwr brwd ac mae’n gwerthfawrogi’r coetiroedd fel rhan bwysig o’r fferm gan ddarparu cyfleoedd saethu gêm, cysgod i stoc a chynefin bywyd gwyllt. Yn y sgwrs hon, mae Robin yn esbonio’r meddylfryd o sut y dechreuodd y plannu coed a sut mae wedi datblygu i fod yn rhan annatod o fusnes y fferm. Hefyd yn y sgwrs cawn glywed wrth Sam Pearson, Rheolwr y fferm a Mentor Cyswllt Ffermio yn sôn am amcanion busnes a gwerth coed i’r system ffermio.

 

 

Rhifyn 73: Cynllunio olyniaeth effeithiol

Cyflwynir y bennod hon gan Alison Harvey, Cynghorydd Cadwyn Gyflenwi Amaeth gyda Rural Advisor. Yn ymuno â hi, mae'r gyfreithwraig a Phartner Rheoli Agri Advisor, Dr Nerys Llewelyn Jones. Cynllunio olyniaeth yw un o’r sgyrsiau anoddaf i’w cael, yn arbennig felly wrth ymdrin â’r mater o fewn busnes ffermio, lle mae amcanion personol a busnes yn aml yn mynd law yn llaw. Teimla Agri Advisor ei bod yn bwysig edrych ar gynllunio olyniaeth fel proses yn hytrach na digwyddiad untro. Mae’n ddoeth ystyried eich ewyllysiau, eich sefyllfa treth etifeddiaeth, atwrnneiaetha’ch strwythurau busnes cyn i newidiadau anochel godi o fewn eich busnes ffermio.

 

 

Rhifyn 74: Trydan ar gyfer cynhyrchu dofednod ac opsiynau adnewyddadwy

Y bennod hon yw'r ail yn ein cyfres ar gyfer cynhyrchwyr dofednod, ond bydd y cynnwys hefyd o ddiddordeb i ffermwyr sy'n defnyddio llawer o ynni ar y safle. Mae Catherine Price, Prif Swyddog Technegol Llaeth a Dofednod Cyswllt Ffermio yn cael cwmni nid un, nid dau ond tri o westeion. Mae'r cynhyrchwyr wyau Llyr Jones ac Osian Williams wedi buddsoddi’n helaeth mewn ynni adnewyddadwy ar y fferm a’r arbenigwr ynni Chris Brooks sy’n rhoi dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sydd wedi arwain at y cynnydd mewn prisiau ynni, a sut y gallwn edrych ar ein heffeithlonrwydd ynni cyn ystyried a yw ynni adnewyddadwy yn dal i fod yn fuddsoddiad ymarferol.

 

 

Rhifyn 75: Bridio porfeydd: Plannu hadau’r dyfodol

Porfa bydd ffocws y podlediad yma yng nghwmi Cennydd Jones, darlithydd rheolaeth glaswelltir ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn ffermwr rhan amser hefyd. Bydd Cennydd yn cael cwmni Alan Lovatt sydd wedi bod yn fridiwr glaswellt trwy yrfa ac erbyn hyn yn gwneud gwaith ymgynghorol i gwmni Germinal sydd wedi ei leoli yng Ngogerddan ger Aberystwyth.

Gyda dros 75% o dirwedd Cymru yn laswelltir o ryw fath neu’i gilydd, ac o ystyried bod glaswelltir yn rhan hanfodol bwysig o ddiet gwartheg, defaid, ceffylau a hyd yn oed geifr ac alpacas, mae heb os nac oni bai yn rhan allweddol o’r jig-so pan mae’n dod at daclo newid hinsawdd, bwydo’r boblogaeth a chynyddu elw ar ein ffermydd, ac fe fyddwn yn cyffwrdd a’r holl agweddau pwysig hyn yn ystod yr 20 munud nesaf.

 

 

Rhifyn 76: Pam dewis gyrfa ym myd amaeth- trafodaeth ymysg panel o newydd-ddyfodiaid

60 mlwydd oed ar gyfartaledd yw oedran ffermwr yng Nghymru, a dim ond 3% o ffermwyr sydd o dan 35 - beth arall felly y gellir ei wneud i annog newydd-ddyfodiaid i amaethu? Yn ein cyfres dwy ran rydym wedi gofyn i'n pedwar newydd-ddyfodiaid cyntaf ddod at ei gilydd i drafod pam eu bod yn y diwydiant, beth maen nhw'n ei garu amdano a beth yw'r heriau? Mae'r bennod hon hefyd ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube, cliciwch ar y ddolen hon a gwnewch yn siŵr eich bod yn hoffi'r fideo, tanysgrifio i'r sianel a tharo'r gloch i gael gwybod am unrhyw gynnwys newydd.

Panel: Matt Swarbrick, Peredur Owen, Ernie Richards a Bryn Perry