Cymorthfeydd Un i Un

Mae cymhorthfa yn gyfle i gael cyngor un i un gydag ymgynghorydd ar eu pwnc arbenigol. Bydd y gymhorthfa yn eich galluogi i gael cyngor a chyfarwyddyd sy’n benodol i’ch busnes. Byddwch yn gallu trafod syniadau busnes neu broblemau y gallwch fod wedi eu cael yn gryno cyn symud ymlaen at ragor o gefnogaeth sydd ar gael trwy wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio os dymunwch hynny.

Bydd y rhain yn awr o hyd ac fe’u cynhelir yn ddigidol naill ai dros y ffôn neu trwy gynadledda fideo, gan ddibynnu ar eich dewis.

Fe fydd amryw o gymorthfeydd yn cael eu cynnal yn wyneb i wyneb ar draws Cymru o dro i dro.

Meini Prawf 

Cliciwch isod i weld rhai o’r pynciau sydd ar gael:

I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen ‘mynegi diddordeb’ isod neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol am fwy o wybodaeth. 

Manylion Cyswllt
Defnyddiwch y fformat canlynol - 00/000/0000
*un pwnc fesul cyflwyniad