Pynciau Tir
Rheoli glaswelltir |
Cyngor cychwynnol ar ddylunio a sefydlu system bori a rheoli glaswelltir ac ansawdd y cyflenwad. Cynhyrchu cynlluniau pori a chyllidebau porthiant. Rheoli perfformiad da byw sy’n pori. |
Amaethyddiaeth adfywiol a Bioamrywiaeth |
Trafod dewisiadau ar sut i wneud y defnydd gorau o gynefin a bioamrywiaeth bresennol eich fferm. Trafod datblygu a chreu bioamrywiaeth ar ffermydd a’r manteision allweddol. |
Ffermio Manwl Gywir |
Trafod y dewisiadau wrth ddefnyddio technegau ffermio manwl gywir fel GPS a data i wella a chynyddu cynhyrchiant a pherfformiad. |
Ôl Troed Carbon |
Dysgu mwy am fesur ôl troed carbon. Deall beth yw’r prif elfennau sy’n achosi allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn amaethyddiaeth. Sut y gallwn ni wrthbwyso allyriadau carbon. |
Coetir | Trafod creu coetir, adfer, torri coed yn ogystal â phrosesu a rheoli coetir |
Am ragor o wybodaeth neu i archebu cymhorthfa cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.